Llwy arbennig I ddathlu penblwydd priodas arbennig - 25ain penblwydd priodas. Mae'r ffigwr 25 wedi ei gerfio ar frig y llwy, a cheir calon a chynllun cwlwm celtaidd oddi tano. Gellir llosgi enwau'r par sy'n dathlu penblwydd priodas ar y galon, a'r dyddiad ar letwad y llwy. Mae'r llwy yn addas fel anrheg oddi wrth ŵr i'w wraig, neu gan wraig i'w gŵr, neu hyd yn oed fel anrheg gan gyfaill i'r par sy'n dathlu penblwydd priodas.
Uchder: 25cm / 9.5"
Llosgysgrifennu: Mae'r Llwy yma yn addas ar gyfer llosgysgrifennu.
Achlysuron:Penblwydd Priodas 25, Penblwydd 25
Cerdyn: Bydd cerdyn yn cynnwys disgrifiad byr o draddodiad y Llwy Garu yn cael eu gynnwys gyda pob archeb.
Dosbarthu cyflym: Bydd pob archeb yn cael ei anfon o fewn 48 awr (2 ddiwrnod gwaith).
Yr holl wybodaeth am ein Llwyau Caru:
Y Symbolau a'u Hystyron - Y Cerfwyr - Yr Hanes - Llosgi Enwau/Dyddiad - Y Gorffeniad a'r Pren