Erthyglau: Americanwyr yn cwympo mewn Cariad gyda Llwyau o Gymru

Cyhoeddwyd ar:02/15/2018
Conor Knighton ar CBS News
Conor Knighton Welsh Love Spoons CBS News

Gwelwyd adroddiad am Lwyau Caru Cymreig ar CBS yr wythnos hon, ac ers hynny ymddengys fod yr Ameicaniaid wedi ffoli ar ein traddodiad Cymreig hynafol.

Cawsom sioc anferth nos Sul wrth agor ein mewnflwch (er nad ydym yn arfer gweithio ar y Sul) a gweld fod cannoedd o archebion yn dod i mewn o'r Unol Daleithiau o ganlyniad i eitem nodwedd a ddarlledwyd y bore hwnnw ar newyddion CBS.

Bu pawb yma'n gweithio'n ddygn o'n gynnar fore Llun hyd yr hwyr, gan alw ar deulu a ffrindiau i ddod i helpu gyda'r archebion. Daeth hyd yn oed Collins y gath i gynnig ei gymorth unigryw!

Ein polisi bob amser yw danfon parseli gyda'r Post Brenhinol o fewn dau ddiwrnod gwaith, ac mae'r archebion fel arfer yn cymryd 5 i 10 diwrnod gwaith i gyrraedd pen eu taith yn yr Unol Daleithiau (Diwrnod yng Nghymru a gweddill y DG). Danfonwyd y 200 archeb cyntaf yn syth o fewn oriau ar y dydd Llun ac mae'r holl archebion eraill wedi cael eu danfon neu yn y broses o gael eu dosbarthu.

Erbyn wythnos nesaf, bydd popeth nol i drefn yma a bydd yr archebion i gyd yn cael eu danfon o fewn dau ddiwrnod. Diolch o galon i'n cyfeillion yn America am yr hwb anferth a roddodd eu harchebion i gerfwyr llwyau caru yng Nghymru.

Darllen mwy: Y llwyau caru Cymraeg sy'n ennyn diddordeb yn America - bbc.co.uk




"Conor Knighton visits Llanddwyn Island off the coast of Wales, where if you want to woo someone, you don't give your sweetheart chocolates, flowers or jewelry; you give them a 'lovespoon.'"