Mae Cadwyn yn awr yn cynnig gwasanaeth llosgi enwau, dyddiadau ac hyd yn oed negeseuon byr yn rhad ac am ddim ar Lwyau Caru. Darllenwch ymlaen am fwy o wybodaeth.
Mae’n broses syml ac unigryw. Dewiswch chi’r Llwy Garu o’r casgliad, a rhowch y manylion o’r geiriau yr hoffech eu cael ar y llwy. Bydd eich rhodd yn hollol unigryw yn y byd gan wneud yr achlysur yn un cwbl arbennig. Nodwch mai’r llwyau a nodir gan "*" sydd yn addas ar gyfer eu llosgysgrifenn. Llosgir y neges fel arfer ar flaen y llwy, ond gellir llosgi hefyd ar y cefn. Rhowch wybod i ni os byddai'n well gennych gael y neges ar y cefn a/neu os hoffech gael y neges wedi ei losgi mewn unrhyw leoliad penodol. Nid oes gennym derfyn fel y cyfryw o'r hyn y gellir ei losgi ar y llwyau, ond fel arfer dau enw a dyddiad s'yn edrych orau. Os oes angen mwy na hyn, cysylltwch â ni i drafod eich anghenion, a byddwn yn rhoi cyngor ar yr hyn sy'n bosibl.
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Dyma rhai enghreifftiau o'r math o negeseuon y gallwch chi eu hychwanegu:
"Priodas
Dda"
"Penblwydd Priodas hapus"
"Penblwydd hapus"
"Ar eich Dyweddiad"
"I'r Fam Berffaith"
"I'm hannwyl wraig"
"Cyfaill Oes"
"Diolch am Bopeth" ayb
Yr holl wybodaeth am ein llwyau Caru:
Ein Casgliad Llawn - Symbolau a'u Hystyron - Y Cerfwyr - Yr Hanes - Llosgi Enwau/Dyddiad - Gorffeniad a'r Pren