Dosbarthu & Dychweliadau

Bydd pob archeb yn cael ei ddosbarthu o fewn 2 ddiwrnod gwaith, wedi'i becynnu yn ddiogel er mwyn sicrhau ei fod yn eich cyrraedd yn ddiogel. Rydym yn danfon ein nwyddau ledled y byd trwy Post Dosbarth Cyntaf DU neu Post Awyr RHYNGWLADOL. Rhaid bod rhywun yn y cyfeiriad a roddir ar ddiwrnod dosbarthu i dderbyn y pecyn. Os na fydd rhywun yn bresennol, bydd cerdyn yn cael ei adael gyda cyfarwyddyd ynglŷn a sut i gasglu'r pecyn.

Cyfraddau Cludiant, Dosbarthu a Phrosesu

Codir £4.95 am gludo nwyddau i Gymru, Lloegr, Yr Alban, Cernyw, Ynys Manaw a Gogledd Iwerddon, a £9.95 ar gyfer pob gwlad / rhanbarth arall. Caiff hyn ei gyfrifo yn awtomatig gan y wefan.

Trafodion Saff Arlein

Rydym yn derbyn Visa, Mastercard, Switch, Solo a American Express - Defnyddir Sterling Yng Nghymru, ac felly mae'r holl brisiau ar y wefan wedi eu nodi yn y Bunt Brydeinig (£). Mae prisiau USD a EUR yno hefyd fel canllaw yn unig. Pan fyddwch yn defnyddio eich cerdyn credyd i brynu nwydd, bydd y swm yn cael ei dynnu o falans eich cerdyn credyd yn eich arian cyfred chi yn awtomatig.

Faint o amser gymerith hi i brosesu a danfon yr archeb?

Caiff pob archeb ei danfon ar ôl cael cadarnhad o ddilysrwydd cerdyn credyd a phrosesu'r archeb. Cymer hyn llai na dau ddiwrnod gwaith fel arfer. Dylai'r archeb gyrraedd ymhen 2 ddiwrnod ar ôl danfon tu fewn i'r Deyrnas Gyfunol ac o fewn 7-20 diwrnod i weddill y byd.

Mae'r nwydd fel arfer mewn stoc oni bai bod nodyn ger y disgrifiad o'r nwydd. Byddwn yn cysylltu trwy ebost os, am unrhyw reswm, nad yw'r nwydd mewn stoc.

Pecynnu

Caiff ein nwyddau eu pecynnu mewn paciau swigod a'u gosod mewn blychau cryf neu amlen postio wedi padio, er mwyn osgoi toriadau. Os y dymunir gallwn gynnwys neges ar gerdyn gyda pob archeb.

Dychweliadau

1. Os digwydd i becyn gyrraedd wedi ei ddifrodi neu os ydym wedi gwneud camgymeriad wrth brosesu eich archeb, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl a rhown gyfarwyddiadau i chi ynglŷn â'ch camau nesaf. Caiff unrhyw nwyddau sydd wedi eu difrodi neu sy'n ddiffygiol eu cyfnewid yn rhad ac am ddim, os rhowch wybod i ni o fewn 30 diwrnod.

2. Os nad ydych yn gyfan gwbl hapus, am ba bynnag rheswm, gyda unrhyw nwydd a dderbynioch, gellir dychwelyd y nwydd ac fe dderbyniwch ad-daliad llawn (ag eithrio cost anfon). Cofier, rhaid cael caniatad ymlaen llaw gan Cadwyn Cyf i ddychwelyd unrhyw nwydd. Cysylltwch â ni trwy roi caniad neu anfon e-bost gan esbonio'r broblem, ac fe rown gyfarwyddyd i chi.

3. Rhaid dychwelyd pob eitem yn ei gyflwr gwreiddiol (h.y. heb ei ddefnyddio)

4. Nid ydym ni'n gyfrifol am unrhyw ddifrod i'r nwyddau wrth iddynt gael eu dychwelyd. Rydym yn argymell felly eich bod yn yswirio'ch cludiant wrth ddychwelyd y nwyddau.