Ffafrau y Briodferch

Welsh Love Spoons Wedding Favours

Daeth yn arferiad i briodferch roi anrhegion (ffafrau) i westeion mewn priodas - er mwyn diolch iddyn nhw am ddod i geisio bendith ar y briodas ac hefyd fel atgoffeb iddyn nhw o'r achlysur, fel eu bod yn dal i gofio am y ddau sy'n priodi. Fel arfer, mae'r anrhegion hyn yn cael eu gosod ar y byrddau o flaen gwesteion yn y wledd briodas.

Welsh Wedding Favours - Love SpoonsLlwyau Caru Bach wedi cerfio â llaw: Rydym yn darparu llwyau caru bach fel anrhegion priodas o'r fath, ac felly'n cyfuno'r arferiad modern hwn gyda'r traddodiad o roi llwy garu ar adeg priodas. Yn wahanol i gyflenwyr eraill, nid ydym ni'n gwerth Llwyau sydd wedi'u gwneud mewn rhifau anferth gyda pheiriannau. Mae ein holl Lwyau Caru sydd gyda ni wedi eu cerfio â llaw yng Nghymru.

Gallwch ychwanebu rhiban at y ffafrau i gydfynd gyda thema'r briodas, y blodau neu wisgoedd y morwynion - mae i fyny i chi!

Ychwanegu byrfoddau: Heb unrhyw gost ychwanegol gallwn losgi llythyren cyntaf enwau'r priodfab a'r briodferch un ar bob calon, er mwyn sicrhau anrheg personol na chaiff byth ei anghofio.

Anfon yn Gyflym: Bydd pob archeb yn cael ei anfon o fewn 48 awr (2 ddiwrnod gwaith). Cysylltwch â ni os yw'r archeb yn frys iawn. Rydym yn hapus i helpu, er mwyn sicrhau fod y Llwy Garu yn cyrraedd ar amser.

Cerdyn rhad ac am ddim: Byddwn yn darparu cerdyn bach gyda'r geiriad canlynol gyda phob Llwy Garu "Cyflwynwn i chi'r llwy garu fach hon, fel arwydd o'n diolch i chi am ddod heddi i fendithio ein priodas. Roedd hi'n draddodiad Cymreig i roi llwy garu, gyda 2 galon, fel symbol o ymroddiad llwyr y naill i'r llall." Gallwn hefyd ychwanegu eich enwau i'r cardiau yma hefyd os ydych chi'n dymuno. Gallwn hyd yn oed newid y neges. Cysylltwch â ni ar ôl gosod yr archeb os hoffech chi i ni ychwanegu at neu newid geiriad y cerdyn. Mae'r mwyafrif o bobl yn clymu'r cerdyn bach i'r llwy garu gan ddefnyddio rhuban sy'n cydfynd â thema a lliwiau'r briodas, neu yn syml yn gosod y cerdyn drws nesaf i'r llwy ar y byrddau.

Yr holl wybodaeth am ein llwyau Caru:
Y Symbolau a'u Hystyron - Y Cerfwyr - Yr Hanes - Llosgi Enwau/Dyddiad - Y Gorffeniad a'r Pren