Sefydlwyd Gemwaith Rhiannon yng Ngeredigion ym 1971 gan Rhiannon Evans, Cymraes ifanc a diddordeb arbennig mewn celf a chrefft a'r diwylliant Cymraeg. Oriel a chanolfan grefftau oedd ei busnes yn wreiddiol, ond yn dilyn ymweliad ag arddangosfa o emwaith a thrysorau Celtaidd, dysgodd ei hun i wneud gemwaith, ac ers hynny mae ei chynlluniau arbennig wedi bod yn llwyddiant rhyngwladol.
Er bod y ganolfan wreiddiol wedi tyfu mae hi'n dal wedi ei lleoli yn yr un adeilad, ac mae Rhiannon a thri o'i meibion yn sicrhau bod y cwmni yn parhau i fod yn fenter deuluol Gymraeg. Gweler isod gasgliad o d lysau a Chlustdlysau Llwyau Caru, ac ambell i eitem arall Cymreig, wedi'u gwneud â llaw yn Ngheredigion.
Anfon yn Gyflym: Rydym yn anelu i anfon pob archeb o fewn 48 awr (2 ddiwrnod gwaith).
Yr holl wybodaeth am Lwyau Caru:
Y Symbolau a'u Hystyron - Y Cerfwyr - Yr Hanes - Llosgi Enwau/Dyddiad - Y Gorffenia a'r Pren