Pren a'r Gorffeniad

Llwyau Caru - Paul CurtisY coed a ddefnyddir i gerfio ein casgliad o Lwyau Caru fel arfer yw pren y bisgwydden (palalwyfen/gwaglwyfen/eurwernen/llwyfanen fanw) o Sir Fynwy, de Cymru. Mae'r pren yn olau mewn lliw ac yn unffurf iawn o ran cymeriad. Mae'n oleuach ac yn haws i'w gerfio na phren collen Ffrengig neu dderw, gydag ychydig iawn o raen, a dwysedd o 560kg fesul metr ciwbig. Mae'n bren poblogaidd iawn ar gyfer cerfio cymhleth, ac yn ffefryn gan ein cerfiwr Paul Curtis.

Pan mae Paul yn gwneud llwy, y peth cyntaf a wna yw dewis y pren. Yna mae'n ei dorri i faint y medrir ei drin yn hawdd. Yn nesaf mae'n amlinellu cynllun y llwy ar y pren ac yna'n torri'r ffurf sylfaenol allan.

Unwaith mae'r llwy wedi ei cherfio caiff ei rhwbio dair gwaith gan wahanol raddau o bapur gwydr a'i sglenio ddwy waith â chwyr gwenyn. Mae'n ffordd drylwyr o orffen Llwy Garu. Hon yw'r unig ffordd o sicrhau gorffeniad llyfn fel sidan i safon mae'r Llwy Garu Gymreig yn ei haeddu.


Yr holl wybodaeth am ein llwyau Caru:
Ein Casgliad Llawn - Symbolau a'u Hystyron - Y Cerfwyr - Yr Hanes - Llosgi Enwau/Dyddiad - Gorffeniad a'r Pren