Mae pob diwrnod Priodas yn unigryw. Byddai'r Llwyau Caru'n anrheg gwych. Mae'n arferiad gan bobl leol yng Nghymru i gyflwyno Llwy Garu i'r briodferch ar derfyn y seremoni. Caiff Llwyau Caru eu rhoi fel anrhegion priodas hefyd i'r cwpwl gan westeion. Gall y Priodfab a'r Briodferch roi Llwy Garu fel arwydd o'u diolch i Fam y Briodferch, y Morynion Priodas ayb.
Mae gennym ni gasgliad fawr o Lwyau Caru sydd yn gwneud anrhegion Priodas unigryw. Rydym hyd yn oed yn llosgi enwau a dyddiadau ar nifer o'r Llwyau yn rhad ac am ddim. Mae'r 'Llwy Dathlu Priodas' (006), 'Llwy Briodas' (013) a'r 'Llwy Briodas Fach' (032) yn anrhegion arbennig o addas, ond mae gyda ni ddewis eang iawn o Lwyau eraill hefyd. Gweler isod y Llwyau Caru sy'n addas fel anrheg Priodas.
Mae'r Llwyau Caru bitw bach yn Ffafrau Priodas delfrydol ac yn cael eu rhoi i'r gwesteion fel werthfawrogiad y pâr priod. Pwyswch yma am fwy o fanylion.
Ychwanegu enwau/dyddiad yn rhad ac am ddim: Gallwn losgi enwau, dyddiad neu negeseuon byr yn rhad ac am ddim ar y rhan fwyaf o'r Llwyau Caru. Ewch at dudalennau y Llwyau Caru unigol i weld os yw'r gwasanaeth ar gael.
Anfon yn Gyflym: Bydd pob archeb yn cael ei hanfon o fewn 48 awr (2 ddiwrnod gwaith). Cysylltwch gyda ni os yw'r archeb yn frys iawn. Rydym wastad yn barod i helpu, er mwyn sicrhau fod y Llwy Garu yn cyrraedd ar amser.
Yr holl wybodaeth am ein llwyau Caru:
Y Symbolau a'u Hystyron - Y Cerfwyr - Yr Hanes - Llosgi Enwau/Dyddiad - Y Gorffeniad a'r Pren