Pren - sy'n dynodi cryfder, cynhesrwydd a chadernid - yw'r deunydd traddodiadol ar gyfer anrhegion i ddathlu 5ed Penblwydd Priodas. Yn draddodiadol rhoddir anrheg o bren i ddathlu pumed penblwydd priodas, gan fod pren yn naturiol ac yn para.
I ddathlu pum mlynedd o fywyd priodasol, dewiswch anrheg unigryw a phersonol ar gyfer eich penblwydd priodas. Trwy gyfrwng y we fyd-eang gallwn gynnig anrhegion pumed penblwydd priodas unigryw a thraddodiadol. Ceir 4 llwy arbennig ar gyfer Pumed Penblwydd Priodas. Gallwn ychwanegu eich enwau a dyddiad y Penblwydd Priodas yn ddi-dâl. Gweler y Llwyau isod.
Ychwanegu enwau/dyddiad yn rhad ac am ddim: Gallwn losgi enwau, dyddiad neu negeseuon byr yn rhad ac am ddim ar y rhan fwyaf o'r Llwyau Caru. Ewch at dudalennau y Llwyau Caru unigol i weld os yw'r gwasanaeth ar gael.
Anfon yn Gyflym: Bydd pob archeb yn cael ei hanfon o fewn 48 awr (2 ddiwrnod gwaith). Cysylltwch gyda ni os yw'r archeb yn frys iawn. Rydym wastad yn barod i helpu, er mwyn sicrhau fod y Llwy Garu yn cyrraedd ar amser.
Yr holl wybodaeth am ein llwyau Caru:
Y Symbolau a'u Hystyron - Y Cerfwyr - Yr Hanes - Llosgi Enwau/Dyddiad - Y Gorffeniad a'r Pren