Sefydlwyd Cadwyn fel cwmni cydweithredol yng nghefn gwlad Cymru yn nechrau’r saithdegau i hyrwyddo cynnyrch crefftwyr bach Cymreig.
O'r cychwyn, roedd y Llwy Garu Gymreig yn rhan annatod o'n cwmni, ac mae galw mawr amdanynt yn awr ar hyd a lled y byd. I ddysgu mwy am y traddodiad o Lwyau Caru darllenwch ychydig o'r hanes, ystyr symbolau y Llwyau Caru a'r pren a ddefnyddir. Mae ein holl Lwyau Caru yn cael eu cerfio â llaw gan gerfwyr talentog yng Nghymru, ac yr ydym bellach yn cynnig gwasanaeth rhad ac am ddim o losgi enwau a dyddiad ar y llwyau.
Sefydlwyd ein cwmni gan bobl oedd yng nghanol yr ymgyrchu i sicrhau dyfodol i gymunedau Cymraeg ac i ennill rhyddid i Gymru gymryd ei lle ymhlith cenhedloedd y byd a gwneud cysylltiadau uniongyrchol gyda phobloedd eraill.
Mae gan Cadwyn ddau nod sylfaenol sydd wrth gefn ein gweithgareddau i gyd:
- i ddarparu cyfleoedd ar gyfer crefftwyr Cymru a’r byd datblygol i werthu eu cynnyrch ac ennill bywolioaeth, a thrwy hynny gryfhau seiliau economaidd y cymunedau hyn.
- i drefnu’n gwaith yn y fath fodd i alluogi gweithwyr y cwmni i gael amser i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd dros gymunedau rhydd yn hytrach nac addoli’r farchnad "rydd".
Gobeithio y byddwch yn hoffi ein casgliad o Lwyau Caru. Os oes gyda chi unrhyw gwestiwn, cysylltwch â ni.
Yr holl wybodaeth am ein llwyau Caru:
Ein Casgliad Llawn - Symbolau a'u Hystyron - Y Cerfwyr - Yr Hanes - Llosgi Enwau/Dyddiad - Gorffeniad a'r Pren