Baban Newydd

http://www.welsh-images/008.jpgBaban a aned! Beth am anrheg arbennig i gofio'r digwyddiad mawr a gaiff ei drysori am byth. Bydd Llwy Garu wedi ei cherfio â llaw'n anrheg gwerthfawr i fachgen bach neu ferch bach.

  • Ydych chi'n chwilio am rhywbeth ychydig bach yn wahanol?
  • Ydych chi'n chwilio am anrheg sy'n cyfleu ysbryd cariad?
  • Ydych chi'n chwilio am anrheg wedi ei wneud â llaw?
  • Ydych chi'n chwilio am anrheg sy'n nodi enw, dyddiad geni a phwysau'r babi newydd?

Edrychwch isod ar ein casgliad o Lwyau Caru sydd wedi'u cerfio â llaw. Awgrymwn y 'Llwy Genedigaeth' (008) yn arbennig o addas. Gallwn losgi enw a dyddiad yn rhad ac am ddim.

Ychwanegu enwau/dyddiad yn rhad ac am ddim: Gallwn losgi enwau, dyddiad neu negeseuon byr yn rhad ac am ddim ar y rhan fwyaf o Lwyau Caru. Ewch at dudalennau y Llwyau Caru unigol i weld os yw'r gwasanaeth ar gael.

Fel anrheg arbennig byddwch hefyd yn derbyn calon Masnach Deg allan o sebonfaen gyda 'Merch Fach', 'Bachgen Bach', 'Baby Girl' neu 'Baby Boy'. Gadewch i ni wybod yn yr adran 'sylwadau' pan yn archebu pa enw hoffech chi gynnwys ar y llwy a pha un o'r calonnau hoffech chi fel anrheg bach rhad ac am ddim.

Anfon yn Gyflym: Bydd pob archeb yn cael ei anfon o fewn 48 awr (2 ddiwrnod gwaith). Cysylltwch gyda ni os yw'r archeb yn frys iawn. Rydym wastad yn barod i helpu, er mwyn sicrhau fod y Llwy Garu yn cyrraedd ar amser.

Yr holl wybodaeth am ein llwyau Caru:
Y Symbolau a'u Hystyron - Y Cerfwyr - Yr Hanes - Llosgi Enwau/Dyddiad - Y Gorffenia a'r Pren