Anrhegion Penblwydd

Mae Llwyau Caru yn cael eu rhoi yn awr fel anrhegion penblwydd unigryw. Caiff ei roi gan ddyn i'w wraig neu gariad, gan rieni i'w plentyn, neu gan ddynes i'w gŵr neu gariad i ddathlu penblwydd. Mae Llwy Garu yn anrheg perffaith i ddathlu digwyddiadau arbennig megis penblwydd yn 18, 21, 30, 40, 50 neu 60. Gweler isod ein casgliad o lwyau gyda oedran y person sy'[n dathlu'r penblwydd wedi'i gerfio fel rhan o'r cynllun. Mae digon o le hefyd i losgi enw'r sawl sy'n dathlu yn ogystal a'r dyddiad ar y llwyau. Mae rhain yn berffaith fel anrhegion Penblwydd neu Benblwydd Priodas.

Ychwanegu enwau/dyddiad yn rhad ac am ddim: Gallwn losgi enwau, dyddiad neu negeseuon byr yn rhad ac am ddim ar y rhan fwyaf o Lwyau Caru. Ewch at dudalennau y Llwyau Caru unigol i weld os yw'r gwasanaeth ar gael.

Anfon yn Gyflym: Bydd pob archeb yn cael ei anfon o fewn 48 awr (2 ddiwrnod gwaith). Cysylltwch gyda ni os yw'r archeb yn frys iawn. Rydym wastad yn barod i helpu, er mwyn sicrhau fod y Llwy Garu yn cyrraedd ar amser.

Yr holl wybodaeth am ein llwyau Caru:
Y Symbolau a'u Hystyron - Y Cerfwyr - Yr Hanes - Llosgi Enwau/Dyddiad - Y Gorffenia a'r Pren