Erthyglau: Llyfryn Llwyau Caru - Elin Meek
Am y Llyfryn - Llwyau Caru:
Llyfryn dwyieithog darluniadol hwylus yn olrhain hanes y grefft o lunio llwyau caru mewn pren a deunyddiau eraill ynghyd ag arwyddocâd y patrymau a ddefnyddir.
Bu'r llwy garu yn symbol o gariad oeseol rhwng bachgen ifanc a'i ddarpar wraig, ond mae'r traddodiad gwerin a'r grefft unigryw hon yn dal i ffynnu yng Nghymru heddiw. Yn y llyfryn cewch ddysgu am arwyddocâd y patrymau a'r hanes y tu cefn i'r trysorau Cymreig arbennig hyn. Mae ein casgliad o Lwyau Caru wedi eu cynnwys yn y llyfryn. Pwyswch yma i brynu'r llyfryn.
Am yr awdur - Elin Meek:
Ganed Elin Meek yn Abertawe ac fe'i haddysgwyd yn Ysgol y Dderwen ac Ysgol Ramadeg y Merched, Caerfyrddin. Mae wedi addasu toreth o lyfrau i blant ac oedolion dros y blynyddoedd.
Medd Elin "Pan o'n i'n blentyn, ro'n i'n arfer dwlu ar dreulio'r prynhawn yn darllen mewn sach gysgu gyda phentwr o lyfrau wrth law... Mae llyfrau wedi bod fel ffrindiau gorau i mi erioed. Felly, mae'n braf iawn cael addasu ac ysgrifennu llyfrau a gobeithio y bydd ambell lyfr yn ffrind gorau i rywun arall."
- Awdur, Elin Meek
- Cyhoeddwyr, Gwasg Gomer
- 24 tudalen, clawr papur.
- 33 llun lliw a 3 llun du-a-gwyn.