Llwy gadwyn newydd sbon! Anrheg hyfryd I ddathlu 5ed penblwydd priodas. Mae'n draddodiad i roi anrheg wedi'i wneud o bren I ddathlu 5ed penblwydd priodas. Ceir dwy gloch sy'n symbol o briodas gariadus, ac oddi tano ceir y ffigwr 5 wedi'i gerfio'n gain i mewn i'r galon fawr. Mae'r dau ddiamwnt yn cynrychioli lwc dda a dwy galon fechan yn gorffen y cyfan. Gellir llosgi enwau'r pâr sy'n dathlu penblwydd priodas ar y ddwy galon, a'r dyddiad ar letwad y llwy. Mae'r llwy yn addas fel anrheg oddi wrth ŵr i'w wraig, neu gan wraig i'w gŵr, neu hyd yn oed fel anrheg gan gyfaill i'r pâr sy'n dathlu'r penblwydd priodas.
Uchder: 31cm / 13"
Llosgysgrifennu: Mae'r Llwy yma yn addas ar gyfer llosgysgrifennu.
Achlysuron: 5ed Penblwydd Priodas
Cerdyn: Bydd cerdyn yn cynnwys disgrifiad byr o draddodiad y Llwy Garu yn cael eu gynnwys gyda pob archeb.
Dosbarthu cyflym: Bydd pob archeb yn cael ei anfon o fewn 48 awr (2 ddiwrnod gwaith).
Yr holl wybodaeth am ein Llwyau Caru:
Y Symbolau a'u Hystyron - Y Cerfwyr - Yr Hanes - Llosgi Enwau/Dyddiad - Y Gorffeniad a'r Pren