Dydd Santes Dwynwen
Dethlir Dydd Santes Dwynwen yng Nghymru ar y 25ain o Ionawr. Yn debyg i'r hyn sy'n digwydd ar ddydd San Ffolant, bydd cariadon yn aml yn rhoi cardiau ac anrhegion i'w gilydd ar Ddiwrnod Sant Dwynwen.
Dwynwen yw Nawddsant Cariadon Cymru, a bu'n byw yn ystod y 5ed ganrif, yn un o'r harddaf a mwyaf crefyddol o 24 merch Brychan Brycheiniog.
Pwyswch yma i weld nwyddau sy'n addas fel anrhegion Diwrnod Santes Dwynwen.
Yn ôl yr hanes, cwympodd Dwynwen mewn cariad â Maelon Dafodrill, ond yn anffodus, roedd ei thad eisoes wedi trefnu iddi briodi rhywun arall. Yn ei gynddaredd, treisiodd Maelon Dwynwen a'i gadael.
Ffodd Dwynwen i'r goedwig, lle gweddïodd ar i Dduw ei rhyddhau o'i theimladau am Maelon. Wedi cwympo i gysgu, ymddangosodd angel yn cario dogn melys wedi'i baratoi er mwyn dileu yr holl atgof o Maelon ac i'w droi yn ddarn o ia.
Yna rhoes Duw dri dymuniad i Dwynwen. Yn gyntaf, gofynnodd am ddadmer Maelon; yn ail, y byddai Duw yn ateb gobeithion a breuddwydion gwir gariadon; ac yn drydydd, na fyddai hi byth yn priodi. Cafodd y tri eu gwireddu, ac fel arwydd o'i diolch, ymroes Dwynwen i wasanaethu Duw am weddill ei bywyd.
Fe drodd Dwynwen yn leian a mynd i fyw ar Ynys Llanddwyn, lle bu farw o achosion naturiol tua 460AD. Erys olion o eglwys Dwynwen hyd heddiw ar ynys Llanddwyn, ger arfordir Ynys Môn. Yn ystod y 14eg ganrif, tra'n ymweld â'r ynys, gwelodd y bardd Dafydd ap Gwilym ddelw aur o Dwynwen y tu mewn i'r eglwys. Bu mor ewn â gofyn i Dwynwen fod yn llatai rhyngddo a Morfudd, y ferch y dymunai ei hennill, a hyn er fod Morfudd eisoes yn briod!
Gwelir ffynnon Dwynwen ar yr ynys hefyd, lle nofia, yn ôl y sôn, bysgodyn cysegredig, a'i symudiadau yn darogan dyfodol cariadon. Os berwa'r dwr yng ngwydd ymwelwyr, bydd lwc a chariad yn sicr o ddilyn.
Gwelwyd twf sylweddol ym mhoblogrwydd dathlu Diwrnod Santes Dwynwen yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Cynhelir digwyddiadau arbennig, megis cyngherddau a phartion ac argreffir cardiau Cymraeg. Er nad ydyw mor boblogaidd â Diwrnod San Ffolant ym mis Chwefror, mae'r nifer o Gymry cyfoes sy'n dewis dathlu gwyl Santes Dwynwen yn prysur gynyddu.
Pwyswch yma i weld nwyddau sy'n addas fel anrhegion Diwrnod Santes Dwynwen.
Darllen Mwy :
Santes Dwynwen - en.wikipedia.org
FAQ: St Dwynwen's Day - amgueddfa.cymru
The Legend of Llanddwyn Island: St. Dwynwen - angleseyheritage.com
The story of Dwynwen, Welsh patron saint of lovers - news.bbc.co.uk
7 things you probably didn't know about St Dwynwen's Day - walesonline.co.uk




