Llwy garu hyfryd o syml. Ceir yma galon gadarn lle gellir llosgi 2 lythyren a dyddiad. Y nodwedd arall yw’r Groes Geltaidd. Mae nifer o groesau tebyg i’w gweld yn y gwledydd Celtaidd, gyda’r cynhara yn dyddio yn ôl i’r 7fed ganrif. Yn ôl un stori, ffurfiwyd y cynllun pan wnaeth Sant Padrig (Cymro a ddaeth yn nawddsant Iwerddon) dynnu siap y groes drwy hen symbol o gylch sef arwydd Duwies baganaidd y Lleuad.
Uchder: 22cm / 8.5"
Llosgysgrifennu: Mae'r Llwy yma yn addas ar gyfer llosgysgrifennu.
Achlysuron: Pob Achlysur
Cerdyn: Bydd cerdyn yn cynnwys disgrifiad byr o draddodiad y Llwy Garu yn cael eu gynnwys gyda pob archeb.
Dosbarthu cyflym: Bydd pob archeb yn cael ei anfon o fewn 48 awr (2 ddiwrnod gwaith).
Yr holl wybodaeth am ein Llwyau Caru:
Y Symbolau a'u Hystyron - Y Cerfwyr - Yr Hanes - Llosgi Enwau/Dyddiad - Y Gorffeniad a'r Pren