Erthyglau: Llwy Garu i Miss Cymru

Cyhoeddwyd ar:10/29/2007

Miss Wales Love SpoonCafodd Miss Cymru 2007 - Kelly Pesticcio o Gaerdydd - ei chyflwyno gyda Llwy Garu ddydd heddiw er mwyn iddi fynd â'r llwy gyda hi i rownd derfynol Miss Byd yn Tsieina. Bydd pob cystadleuydd yn cymryd rhodd draddodiadol o'i gwlad gyda hi er mwyn cynnal Ocsiwn Fawr elusennol yn y digwyddiad.

Fe wnaeth gwmni Crefftau CADWYN o Sir Gâr gyflwyno'r Llwy i Kelly ar eu stondin i hyrwyddo Llwyau Caru a chrefftau eraill o Gymru a'r Byd yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant. Ar y Llwy Garu gwelir y Ddraig Gymreig wedi'i cherfio â llaw a'r geiriau "Cariad, Miss Cymru 2007" wedi eu torri ar y calonnau.

Bydd Cadwyn yn torri enwau a dyddiadau ar Lwyau Caru drwy'r wythnos nesaf yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant ac ar-lein drwy'r flwyddyn at, sef anrhegion unigryw ar gyfer penblwyddi priodas, priodasau, dyweddiadau, Sul y Mamau, Santes Dwynwen, Sant ffolant, Nadolig neu'n syml i ddweud 'Rwy'n dy Garu.'

Gwybodaeth am Miss Cymru (Saesneg yn unig):
KELLY PESTICCIO - MISS CYMRU 2007

Miss Wales Love Spoon