Erthyglau: Dydd Gwyl Dewi - Llwyau Caru

Cyhoeddwyd ar:03/01/2017

I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, mae peiriant chwilio 'Google' wedi llunio logo ar ffurf Llwy Garu, a fydd i'w weld gan chwilwyr ar hyd a lled gwledydd Prydain ar Fawrth 1af 2017. Mae'r logo yn debyg iawn i un o'n Llwyau Caru - Llwy Garu'r Ddraig Goch - sydd wedi ei cherfio â llaw yng Nghymru (gweler isod). Darllenwch ragor am hanes Dewi Sant isod, a chliciwch ar y dolenni yn y ddewislen am fwy o wybodaeth am ein llwyau caru.

Llwy Garu Google

Llwy Garu'r Ddraig GochNawddsant Cymru

Dewi Sant yw nawddsant Cymru, ac ymhlith seintiau Prydain ac Iwerddon ef yw'r unig un sy'n perthyn i'r genedl y mae'n nawddsant iddi. Bu farw Dewi ar y cyntaf o Fawrth oddeutu 589 AD, a dyma'r dyddiad y dethlir Gŵyl Ddewi bob blwyddyn. Dyma'r diwrnod lle yr ydym yn gwisgo cenhinen neu genhinen Bedr, ac yn chwifio baneri Cymru gyda balchder.

Cafodd Dewi ei wneud yn nawdd sant i ni yng Nghymru bron i fil o flynyddoedd yn ôl yn ystod uchafbwynt rhyfel y Cymry yn erbyn byddinoedd Edward y cyntaf o Loegr.

Heddiw mae pawb sydd a chysylltiadau Cymreig yn ei dathlu ar y cyntaf o Fawrth. Yng Nghymru, bydd nifer o blant yn gwisgo'r wisg Gymreig ac yn cystadlu mewn eisteddfodau ysgol. Cynhelir nifer o Nosweithiau Llawen a chyngerddau, a bydd nifer o gymdeithasau yn cael noson gawl a gŵr gwadd i'w hannerch.

Cynhelir gorymdaith Genedlaethol Flynyddol yng Nghaerdydd ar ddydd Gŵyl Dewi. Mae Gorymdaith Dewi Sant yn achlysur Cymreig sydd yn agored i bawb. Cyfle i bobl Cymru, o bob oedran, cefndir ethnig neu gefndir cymdeithasol i ymuno mewn dathliad creadigol ac urddasol o ddiwylliant a threftadaeth Cymru.

Mae cymdeithasau Cymreig drwy'r byd hefyd yn dathlu drwy gynnal ciniawau, partion a chyngerddau. Yn yr Unol Daleithiau yn 2006, cafodd Dydd Gwyl Dewi ei gydnabod yn swyddogol fel diwrnod cenedlaethol y Cymry, ac ar y cyntaf o Fawrth cafodd yr 'Empire State Building' eu oleuo yn lliwiau baner Cymru.

Dewi SantPwy oedd Dewi Sant?

Ganwyd Dewi Sant tuag at ddiwedd y bumed ganrif, llai na chant o flynyddoedd wedi i'r olaf o lengoed Rhufain adael Cymru. Enw bedydd tad Dewi oedd Sant, ac ef oedd etifedd teulu brenhinol Ceredigion. Enw ei fam oedd Non, merch i Gynyr o Caio, enw sydd yn cael ei gofio mewn nifer o eglwysi a ffynhonau sanctaidd yng Nghymru, Cernyw a Llydaw. Cafodd Dewi ei addysg yn Henfynyw yng Ngheredigion, lle dysgodd am hanes a threfn a llenyddiaeth yr eglwys.

Sylfaenodd gymuned fynachaidd Geltaidd yng Nglyn Rhosyn, ar arfordir gorllewinol Sir Benfro, yn y man lle saif Eglwys Gadeiriol Tyddewi heddiw. Mae'n bosib i'r safle fod yn gartref i gymuned grefyddol gynnar iawn. Mae Sant Padrig hefyd yn gysylltiedig gyda'r safle, ganwyd Sant Padrig yn Ne Cymru, a dywedir iddo dreulio ychydig o amser yng Nglyn Rhosyn cyn hwylio i Iwerddon o Porth Mawr.

Tyfodd enwogrwydd Dewi fel athro drwy'r byd Geltaidd. Roedd Dewi yn byw bywyd llym, fel pob mynach Celtaidd arall - yn wir cafodd y llysenw Dewi Ddyfrwr. Mae yna nifer fawr o chwedlau yn ymwneud a Dewi. Efallai mai'r enwocaf yw y bregeth yn Llanddewi Brefi yng Ngheredigion, pan oedd yn annerch y dorf enfawr fe gododd y tir o dan ei draed er mwyn i bawb allu ei glywed yn siarad. Dywedid i golomen pig-aur lanio ar ei ysgwydd fel symbol o'i sancteiddrwydd.

Daeth y sefydliad yng Nglyn Rhosyn yn un o'r mannau cysegredig mwyaf pwysig yn y byd Cristnogol, ac yn sicr yr un fwyaf pwysig yng Nghymru: roedd llwybrau a heolydd drwy Gymru gyfan yn arwain tuag ato, ac yn y canol oesodd roedd dau bererindod i Tyddewi yn cyfateb i un pererindod i Rhufain Felly daeth Glyn Rhosyn yn ganolbwynt i ddyheadau crefyddol y genedl Gymreig a fel ysgrifennodd Gerallt Gymro (Giraldus Cambrensis): "Fe ddaeth Esgobaeth Tyddewi... yn symbol o annibyniaeth Cymru... a dyna paham y dyrchafwyd Dewi ei hun i fod yn Nawdd sant Cymru."

Mae Mawrth y cyntaf wedi ei gofnodi fel dyddiad marwolaeth Dewi Sant, ond mae yna ansicrwydd ynglyn a'r flwyddyn. Mae 588 yn bosibilrwydd. Wrth i'r mynachod yn Nglyn Rhosyn baratoi ar gyfer ei farwolaeth, dywedodd Dewi wrthynt: "Frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf fi."

Mwy o wybodaeth